Salm 47:6-9 Salmau Cân 1621 (SC)

6. O cenwch, cenwch, glod ein Duw,ein brenin yw, o cenwch,

7. Duw dros y byd sy frenin call,drwy ddeall ymhyfrydwch.

8. Brenin yw ef, a da y gwnaethlywodraeth ar wyr bydol,Ac y mae’n eistedd yn ei drwn,gorseddfa swn sancteiddiol.

9. Ymgasglant bendefigion byd:ynghyd â llu Duw Abra’m,Duw biau tariannau y tir,drwy foliant hir yn ddinam.

Salm 47