Salm 47:1-8 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Cenwch, a churwch ddwylo ’nghyd:holl bobl y byd cyfannedd:A llafargenwch i Dduw nef,gan leisio â llef gorfoledd.

2. Sef ofnir Duw uwch daiar gron,ef sydd dros hon yn frenin,

3. Dwg bobloedd danom, a phob gwaed,a than ein traed fo’i disgin.

4. Fe a rydd ini feddiant siwr,gwlad Jago, gwr a garai.

5. Duw a dderchafodd wrth y sain,yr utgorn gain pan leisiai.

6. O cenwch, cenwch, glod ein Duw,ein brenin yw, o cenwch,

7. Duw dros y byd sy frenin call,drwy ddeall ymhyfrydwch.

8. Brenin yw ef, a da y gwnaethlywodraeth ar wyr bydol,Ac y mae’n eistedd yn ei drwn,gorseddfa swn sancteiddiol.

Salm 47