6. Dy lân orseddfaingc (o Dduw fry)a bery o dragwyddoldeb:Awdurfaingc dy dyrnas y syddawdurol: rhydd uniondeb.
7. Ceraist uniondeb: case’ist gam,o achos pa’m: Duw lywydd,Dy Dduw rhoes arnat ragor fraint,sef ennaint y llawenydd.
8. Aroglau myrh, ac aloes da,a chasia sy ar dy ddillad,Pan ddelych di o’th Ifyrn daille i’th lawenai’r hollwlad.
9. Sef merched brenhinoedd yn gwaugyda’ch garesau cywir,O’th du deau’r frenhines doethmewn gwisg aur coeth o Ophir.
10. Clyw hyn, o ferch, a hefyd gwel,ac a chlust isel gwrando:Mae’n rhaid yt ollwng pawb o’th wlâd,a thy dy dâd yn ango’.