2. Uwch meibion dynion tegach wyd,tywalldwyd rhad i’th enau,Herwydd i Dduw roi arnat wlithei fendith byth a’i radau.
3. Gwisg dy gleddau yng wasg dy glun,o gadarn gun gogonedd:A hyn sydd weddol a hardd iawn,mewn llwydd a llawn orfoledd.
4. Marchog ar air y gwir yn rhwydd,lledneisrwydd, a chyfiownedd:A’th law ddeau di a â drwybethau ofnadwy rhyfedd.
5. A thanat ti pobloedd a syrth,gan wyrth dy saethau llymion:Briwant hwy, a glynant yn glauym mronnau dy elynion.
6. Dy lân orseddfaingc (o Dduw fry)a bery o dragwyddoldeb:Awdurfaingc dy dyrnas y syddawdurol: rhydd uniondeb.