11. Yna’i bydd (gan y brenin) wychgael edrych ar dy degwch:Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,i gael i’th oes hyfrydwch.
12. Merched Tirus oedd â rhodd dda:a’r bobloedd appla o olud:A ymrysonent gar dy fron,am roi anrhegion hefyd.
13. Ond merch y brenin, glân o fewn,anrhydedd llawn sydd iddi:A gwisg o aur a gemmau glânoddiallan sydd am dani.
14. Mewn gwaith gwe nodwydd y daw honyn wych gar bron ei harglwydd,Ac a’i gwyryfon gyda hidaw attad ti yn ebrwydd.
15. Ac mewn llawenydd mawr a heddac mewn gorfoledd dibrin,Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwysi gyd i lys y brenin.