Salm 44:13-17 Salmau Cân 1621 (SC)

13. Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)i’n cymdogion gwrthrym:A diystyrwch oll a gwarthi bawb o bobparth ydym.

14. Dodaist ni yn ddihareb chwithymhlith yr holl genhedloedd,Ac yn arwydd i ysgwyd pen,a choeg gyfatcen pobloedd.

15. Fy ngwarth byth o’m blaen daw yn hawdd,fy chwys a dawdd fy rhagdal,

16. Gan lais gwarth ruddwr, cablwyr câs,a gwaith galanas dial.

17. Er dyfod arnom hynny i gydni throes na’m bryd na’n cofion,Ac ni buom i’th air (o Ner)un amser yn anffyddlon.

Salm 44