Salm 41:8-13 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Yna dywedent hwy yn rhwydd,tywalldwyd aflwydd arno,Mae ef yn gorwedd yn ei nyth,ni chyfyd byth oddiyno.

9. F’anwyl gyfaill rhwym y’m wrth gred,fy ’mddiried a’m dewisddyn:A fu yn bwyta’ mara erioed,a godai’i draed yn f’erbyn.

10. Eithyr dy hunan cyfod fi,o’th ddaioni Duw o’r nef:Felly y gallaf fi ar hyntgael talu iddynt adref.

11. Da y gwn fy mod i wrth dy fodd,wrth hyn, na chafodd casddyn:A gwna na chaiff un gelyn glasddim urddas yn fy erbyn.

12. Felly y gwn am danaf fi,di a’m cynheli’n berffaith:Gan fy rhoi i byth gar dy frono fysg y dynion diffaith.

13. I Dduw Israel boed yn flithy fendith, (Ior goruchaf)Yn oes oesoedd: a thrwy air llen:Amen: Amen a draethaf.

Salm 41