Salm 36:8-10 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Cyflawn o frasder yw’r ty tau,lle lenwir hwythau hefyd.Lle y cânt ddiod gennyt Ion,o flasus afon hyfryd.

9. Gyda thi mae y loywffrwd hon,a dardd o ffynnon einioes:A'th deg oleuni, ac â’th râd,y cawn oleuad eisoes.

10. O ystyn etto i barhau,dy drugareddau tirion:Ni a’th adwaenom di, a’th ddawn,i’r rhai sydd uniawn galon.

Salm 36