Salm 28:7-9 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m rhan,a’m tarian, a’m daioni.Ymddiriedais iddo am borth,a chefais gymorth gantho.Minnau o’m calon, drwy fawr chwant,a ganaf foliant iddo.

8. Yr Arglwydd sydd nerth i bob rhaia ymddiriedai’n hylyn:A’i eneiniog ef fydd maeth,ac iechydwriaeth iddyn.

9. Gwared dy bobl dy hun yn dda,bendithia d’etifeddiaeth.Bwyda, cyfod hwy, am ben hyndod iddyn dragwyddolfaeth.

Salm 28