Salm 23:1-6 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Yr Arglwydd yw fy ’mugail clau,ni âd byth eisiau arnaf:

2. Mi a gâf orwedd mewn porfa frâs,ar lan dwfr gloywlas araf.

3. Fe goledd f’enaid, ac a’m dwgrhyd llwybrau diddrwg cyfion,Er mwyn ei enw mawr dilysFo’m tywys ar yr union.

4. Pe rhodiwn (nid ofnwn am hyn)yn nyffryn cysgod angau,Wyd gyda mi, a’th nerth, a’th ffon,ond tirion ydyw’r arfau:

5. Gosodaist fy mwrdd i yn frâs,lle’r oedd fy nghâs yn gweled:Olew i’m pen, a chwppan llawn,daionus iawn fu’r weithred.

6. O’th nawdd y daw y doniau hyni’m canlyn byth yn hylwydd:A minnau a breswyliaf bytha’m nyth yn nhy yr Arglwydd.

Salm 23