1. Yr Arglwydd yw fy ’mugail clau,ni âd byth eisiau arnaf:
2. Mi a gâf orwedd mewn porfa frâs,ar lan dwfr gloywlas araf.
3. Fe goledd f’enaid, ac a’m dwgrhyd llwybrau diddrwg cyfion,Er mwyn ei enw mawr dilysFo’m tywys ar yr union.
4. Pe rhodiwn (nid ofnwn am hyn)yn nyffryn cysgod angau,Wyd gyda mi, a’th nerth, a’th ffon,ond tirion ydyw’r arfau: