Salm 22:5-10 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Llefasant drwy ymddiried gynt,da fuost iddynt: Arglwydd:Eu hachub hwynt a wnaethost dirhag cyni a rhag gwradwydd.

6. Fo’m rhifir innau megis pryf,nid fel gwr cryf ei arfod:Fel dirmyg dynion, a gwarth gwaelA thybiant gael eu hystod.

7. Pawb a’m gwelent, a’m gwatworent,ac a’m min-gamment hefyd,Ysgwyd eu pennau yn dra hy,a chwedi hynny dwedyd,

8. Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chred,doed ef iw wared allan,Os myn ei ollwng ef ar led,cymered iddo ei hunan.

9. Duw tynnaist fi o groth fy mam,rhoist ynof ddinam obaith,Pan oeddwn i yn sugno hon,ac o’i dwy fron am harchwaith.

10. Arnat ti bwriwyd fi o’r bru,arnat ti bu fy ’mddiried:Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,ffyddiais yt am fy ngwared.

Salm 22