Salm 20:7-9 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Rhai ar gerbydau rhont eu pwys,rhai ar feirch ddwys ymddiried:Minnau ar enw’r Arglwydd Ddyw,mai hwnnw yw’n ymwared.

8. Hwy a ’mroesant a syrthiasant,yn un nerth eisoes yno:Codasom a safasom ni,O Dduw, a thi i’n lwyddo.

9. Cadw ni Arglwydd a’th law gref,boed brenin y nef drosom:Gwrandawed hwnnw arnom ni:A’n gweddi pan y llefom.

Salm 20