8. Gofyn ym, a mi yt’ a’i rhydd,holl wledydd i’w ’tifeddu:Y cenedlaethau dros y byd,i gyd a gai meddiannu.
9. Ti a’i briwi hwynt, yn dy farn,â gwialen haiarn hayach:Ti a’i maluri, hwythau ân,mor fân a llestri priddach.
10. Am hyn yn awr frenhinoedd coeth,byddwch ddoeth a synhwyrol:A chwithau farnwyr cymrwch ddysg,i ostwng terfysg fydol.
11. Gwasnaethwch chwi yr Arglwydd nef,ac ofnwch ef drwy oglud:A byddwch lawen yn Nuw cu,etto drwy grynu hefyd.
12. Cusenwch y Mab rhag ei ddig,a’ch bwrw yn ffyrnig heibio:A gwyn ei fyd pob calon lân,a ymddiriedan yntho.