3. Drylliwn eu rhwymau, meddau hwy;ni wnawn ni mwy ufydd-dod:Ac ymaith taflwn eu trom iau,ni chant yn frau mo’n gorfod.
4. Ond Duw’r hwn sydd uwch wybrol lena chwardd am ben eu geiriau:Yr Arglwydd nef a wel eu bar,efe a’i gwatwar hwythau.
5. Yna y dywaid yn ei lid,a hyn fydd rhy brid iddyn:O’i eiriau ef y cyfyd braw,a’i ddig a ddaw yn ddychryn.
6. Gosodais innau (meddai ef)â llaw gref yn dragywydd:Fy Mrenin i, yn Llywydd llon,ar sanctaidd Sion fynydd.
7. Dyma’r ddeddf a ddwedai yn rhwydd,hon gan yr Arglwydd clywais:Ti yw fy mab (o’m perffaith ryw)a heddyw i’th genhedlais.
8. Gofyn ym, a mi yt’ a’i rhydd,holl wledydd i’w ’tifeddu:Y cenedlaethau dros y byd,i gyd a gai meddiannu.
9. Ti a’i briwi hwynt, yn dy farn,â gwialen haiarn hayach:Ti a’i maluri, hwythau ân,mor fân a llestri priddach.
10. Am hyn yn awr frenhinoedd coeth,byddwch ddoeth a synhwyrol:A chwithau farnwyr cymrwch ddysg,i ostwng terfysg fydol.