2. Fy Nâf, fy nerth, fy nawdd, fy Nuw,hwn yw fy holl ymddiried.
3. Pan alwyf ar fy Ior hynod,i’r hwn mae clod yn gyfion,Yna i’m cedwir yn ddiaurhag drygau fy nghaseion.
4. Gofidion angau o bob tuoeddynt yn cyrchu i’m herbyn,A llifodd afonydd y fallyn ddiball, er fy nychryn.
5. Pan ydoedd fwyaf ofn y bedd,a gwaedlyd ddiwedd arnaf,Ag arfau angau o bob tu,am câs yn nesu attaf.
6. Yna y gelwais ar fy Ner,ef o’r uchelder clywodd,A’m gwaedd a ddaeth hyd gar ei fron,a thirion y croesafodd.