3. Ban chwiliaist fi (da yw dy gof)ni chefaist ynof gamwedd,Fy myfyr mâd na’m meddwl llaes,na ddoed ymaes o’m dannedd.
4. I ochel cydwaith dynion drwg,drwy d’air a’th amlwg cyngor,Fordd y dyn trawsgryf haerllyd llym,fe ddysgwyd ym ei hepgor.
5. Ond yn dy union lwybrau di,Duw, cynal fi yn wastad,Rhag llithro allan o’th iawn hwyl,Duw disgwyl fy ngherddediad.
6. Galw yr wyf arnad, am dy fodyn Dduw parod i wrando,Gostwng dy glust, a chlyw yn rhoddfy holl ymadrodd etto.
7. Cyfranna dy ddaionus râd,(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)I’r rhai sy’n ymroi dan dy law,rhag broch, a braw y trawsion.