Salm 16:6-10 Salmau Cân 1621 (SC)

6. A thrwy Dduw syrthiodd i mi rano fewn y fan hyfrydaf:Digwyddodd ymy, er fy maeth,yr etifeddiaeth lanaf.

7. Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,hwn a roes gyngor ymmy,F’arennau hefyd ddydd a nos,sydd ym yn dangos hynny.

8. Rhois fy Ner (bob awr) gar fy mron,o’r achos hon ni lithraf,Cans mae ef ar fy nehau law,yma na thraw ni syflaf.

9. O herwydd hyn, llawen a llonyw fy nghalon: ac eilwaithHyfryd yw fy mharch a di ddig,a’m cnawd a drig mewn gobaith.

10. Cans yn uffern ni edi dimo’m henaid i, i aros:Na'th anwyl sanct (drwy naws y bedd)i weled llygredd ceuffos.

Salm 16