Salm 149:6-9 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Yn eu genau bydd cerdd bob awr,ein Duw a’i fawr ryfeddod,Ac yn eu dwylaw bydd iw drin,y cleddyf deufin parod:

7. Ar estroniaid i’n dial ni,ac i gosb boeni’r bobloedd:

8. I roi mewn caethder gadwyn dro,i rwymo ei brenhnioedd.I roi eu pendefigion chwyrn,mewn gefyn heyrn ffyrnig.

9. I wneuthur arnynt union farn,yn gadarn scrifennedig.Dymma’r glân ardderchwgrwydd fyddiw Sainct y sydd yn credu;Clodforwch oll yr Arglwydd nef,o molwch ef am hynny.

Salm 149