Salm 147:1-4 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Molwch yr Arglwydd, cans da ywcanu i Dduw yn llafar:O herwydd hyfryd yw ei glod,a da yw bod yn ddiolchgar.

2. Caersalem dinas gyflawn fyddyr Arglwydd sydd iw darpar:Can gasglu Israel ynghyd,a fu drwy’r byd ar wasgar.

3. Yr unic Arglwydd sy’n iachâu,yn rhydd o friwiau’r galon:Yr Arglwydd rhwym ’cu brwiau’n iawny rhai dolur-lawn cleifion.

4. Yr Arglwydd sydd yn rhifo’r ser,a phob rhyw nifer honynt:Ef a’i geilw hwynt oll yn glau,Wrth briod enwau eiddynt.

Salm 147