Salm 144:13-15 Salmau Cân 1621 (SC)

13. A’n conglau’n llawnion o bob peth,a’n defaid, difeth gynnydd,Yn filoedd (mawr yw’r llwyddiant hwn)a myrddiwn i’n heolydd.

14. A’n hychen cryfion dan y wedd,yn hywedd, ac yn llonydd:Heb dorr na soriant i’n mysg ni,na gwdeiddi i’n heolydd.

15. Dedwydd ydyw y bobl y sy,a phob peth felly ganthynt:Bendigaid yw’r bobl y rhai’n yw,a’r Arglwydd yn Dduw iddynt.

Salm 144