Salm 135:5-7 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Cans mawr yw’r Arglwydd yn ei lys,mi a wn yn hysbys hynny:Ym mhell uwchlaw’r holl dduwiau mân,mae’r Arglwydd glân a’i allu.

6. Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,yn uchder nef eithafon:Ar ddaiar, ac yn y mor cau,a holl ddyfnderau’r digion.

7. O eithaf daiar cyfyd tarth,daw’r mellt o bobparth hwythau,Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,a godynt o’i drysorau.

Salm 135