Salm 134:1-2 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Wele, holl weision Arglwydd nef,bendithiwch ef, lle’r ydychYn sefyll yn nhy Dduw y nos,a’i gyntedd diddos trefn-wych.

2. Derchefwch chwi eich dwylo glân,yn ei gyssegr-lân annedd:A bendithiwch â chalon rwydd,yr Arglwydd yn gyfannedd.

Salm 134