9. Gwisged d’offeiriaid gyfion fraint,gwisged dy Sainct wirionedd.
10. Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,na thyn dy râs yn llidiog:Ac na wrthneba di er neb,mo wyneb dy enneiniog.
11. I Ddafydd rhoes yr Ion iw gwir,a chedwir hwn heb wyredd:O ffrwyth dy gorph rhof ar dy faingc,it iraidd gaingc i eistedd.
12. Fy neddfau a’m cyfammod i,dy feibion di os cadwant:O blann i blann o gaingc i gaingc,hwy ar dy faingc a farnant.