Salm 119:9-16 Salmau Cân 1621 (SC)

9. Pa fodd (o Dduw) y ceidw llangc,sydd ieuangc, eu holl lwybrau?Wrth ymgadw yn ol dy air,pob llwybr a gair yn olau.

10. Dy orchmynion â’m holl galon,a’i dirgelwch ceisiais oll,O lluddias fi ar ofer hynt,oddiwrthynt ar gyfyrgoll.

11. I’m calon cuddiais dy air cu,rhag imi bechu’n d’erbyn:

12. O Arglwydd bendigaid wyt ti,o dysg i mi d’orchymmyn.

13. Dy gyfiawn feirn, a’r gwir air tau,a mawl gwefusau traethais.

14. A’th dystiolaethau di i gyd,uwch holl dda’r byd a hoffais.

15. Dy ddeddf fy myfyr yw a’m drych,dy ffyrdd ’r wy’n edrych arnyn.

16. Mor ddirgrif ymy yw dy air,o’m cof nis cair un gronyn.

Salm 119