Salm 119:84-91 Salmau Cân 1621 (SC)

84. Pa hyd yw amser dy wâs di?Pa bryd y bernir trowsion?

85. Cleddiai’r beilchion i’m byllau: hynsy’n erbyn dy gyfreithiau.

86. Gwirionedd yw d’orchmynion di,cymmorth fi rhag cam faglau.

87. Braidd na’m difent o’r tir ar gais:Ond glynais wrth d’orchmynion.

88. Bywha fi Dduw, i gadw ’yn glau,dystiolaeth d’enau ffyddlon.

89. Byth yn y nef y pery d’air,o Dduw cair dy wirionedd.O oes i oes: sicrhe’ist y tirna siglir mo’i amgylchedd.

90. Safant byth wrth dy farnau di,maent i ti’n weision ufudd.

91. Oni bai fod dy ddeddf yn dda,i’n difa buasai gystudd.

Salm 119