Salm 119:7-10 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Mi a’th glodforaf di er neb,ac mewn uniondeb calon:Pan ddysgwyf adnabod dy farn,sy gadarn, ac sy gyfion.

8. Am dy farn mae fy holl amcan,dy ddeddfau glân a gadwaf.Na âd fyth fyth fi yn fy nych,o, tro i edrych arnaf.

9. Pa fodd (o Dduw) y ceidw llangc,sydd ieuangc, eu holl lwybrau?Wrth ymgadw yn ol dy air,pob llwybr a gair yn olau.

10. Dy orchmynion â’m holl galon,a’i dirgelwch ceisiais oll,O lluddias fi ar ofer hynt,oddiwrthynt ar gyfyrgoll.

Salm 119