Salm 119:38-44 Salmau Cân 1621 (SC)

38. Cyflowna d’air â mi dy was,yna caf ras i’th ofni.

39. Ofnais warth, o tro heibio hon,da yw d’orchymynion tyner.

40. Wele, f’awydd i’th gyfraith yw,gwna ym fyw o’th gyfiownder.

41. Arglwydd dod dy drugaredd ym,a hyn o rym d’addewid.

42. Drwy gredu’n d’air rhof atteb crwni’m cablwr hwn a’m dilid.

43. O’m genau na ddwg dy air gwir,i’th farnau hir yw’n gobaith.

44. Minnau’n wastadol cadwaf bythdy lân wehelyth gyfraith.

Salm 119