Salm 119:31-40 Salmau Cân 1621 (SC)

31. Glynais wrth dy air, o Arglwydd,o lludd i’m wradwydd digllon.

32. Yn dy ddeddfau fy rhediad fyddpan wneych yn rhydd fy nghalon.

33. Duw, ffordd dy ddeddfau dysg i mi,dros f’einioes hi a gadwaf.

34. O par i’m ddeall y ddeddf hon,o’m calon mi a’i cyflownaf.

35. Par i’m fynd lwybr dy ddeddf ar frys,hyn yw fy ’wyllys deilwng;

36. A’m calon at ddystiolaeth dda,nid at gybydd-dra gostwng.

37. Tro fi rhag gweled gwagedd gwael,bywha fi’i gael dy ffordd di.

38. Cyflowna d’air â mi dy was,yna caf ras i’th ofni.

39. Ofnais warth, o tro heibio hon,da yw d’orchymynion tyner.

40. Wele, f’awydd i’th gyfraith yw,gwna ym fyw o’th gyfiownder.

Salm 119