Salm 119:137-143 Salmau Cân 1621 (SC)

137. Cyfiawn ydwyt (o Arglwydd Dduw)ac uniawn yw dy farnau.

138. Dy dystiolaethau yr un wedd,ynt mewn gwirionedd hwythau.

139. Fy serch i’th air a’m difaodd,pan anghofiodd y gelyn.

140. D’ymadrodd purwyd drwy fawr ras,hoffodd dy wâs d’orchymyn.

141. Nid anghofiais dy gyfrath lân,er bod yn fychan f’agwedd.

142. Dy gyfiawnder di cyfiawn fydd:a’th ddeddf di fydd wirionedd.

143. Adfyd cefais, a chystudd maith:dy gyfraith yw ’nigrifwch.

Salm 119