Salm 119:114-120 Salmau Cân 1621 (SC)

114. Lloches a tharian i’m i’th gair:wrth dy air y disgwyliais.

115. Ciliwch rai drwg oddiwrthiff,fy Nuw cadwaf ei gyfraith,

116. Cynnal fi â’th air, a byw a wnaf,ni wridaf am fy ngobaith.

117. O cynnal fi, fy Arglwydd Naf,a byddaf iach dragwyddol:Ac yn dy ddeddfau iach y byddfy llawenydd gwastadol.

118. Sethraist o Arglwydd, yr holl rai,a ai oddiwrth dy ddeddfau:Am mai oferedd gar dy fronoedd eu dychmygion hwythau.

119. Difethaist holl rai drwg y tir,fel y dyfethir sothach.Am hyn dy dystiolaethau di,a gerais i’n anwylach.

120. O Arglwydd Dduw rhag ofn dy ddig,fy gnhawd am cig a synnodd.Rhag dy farnedigaethau di,fy yspryd i a ofnodd.

Salm 119