Salm 116:8-12 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Oherwydd i Dduw wared f’oes,a’m cadw rhag gloes angau,Fy nrhaed rhag llithro i law drwg,a’m golwg i rhag dagrau.

9. Yn y ffydd hon o flaen fy Nuw,ym mysg gwyr byw y rhodiaf.

10. Fel y credais felly y tystiais,ar y testyn ymma.

11. Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,mae pob dyn yn gelwyddog,

12. Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,am dy ddaioni cefnog?

Salm 116