Salm 108:7-13 Salmau Cân 1621 (SC)

7. Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duwllawen yw fy nghyfamod,Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,mesuraf ddyffryn Succod.

8. Myfi piau y ddwy dretâd,sef Gilead a Manasse.Ac Ephraim yw nerth fy mhen,a Juda wen fy neddf-le.

9. Ym Moab ymolchi a wnaf,dros Edom taflaf f’esgidA chwardded Palestina gaeth,a chwerthin aeth yn rhybrid.

10. Duw pwy a’m dwg i’r ddinas gref?pwy a’m dwg i dref Edom?

11. Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,o Dduw, a ’mleddi drosom?

12. O unig Dduw, bydd i’n yn borth,mae’n ofer cymorth undyn.

13. Yn Nuw y gwnawn wrolaeth fawr,fe sathr i lawr ein gelyn.

Salm 108