Salm 107:31-36 Salmau Cân 1621 (SC)

31. Cyffesent hwythau gar ei fron,ei fwynion drugareddau,Ac i blant dynion fel y gwnaethyn helaeth ryfeddodau.

32. Holl gynulleidfa ei bobl ef,clod Duw hyd nef dyrchafant:Holl eisteddfeydd pennaethiaid hen,yn llawen a’i moliannant.

33. Y ffrydau’n ddyrys dir a wnâi,fe sychai ddwfr lle tarddo.

34. A thir ffrwythlawn a wnâi’n ddiffrwyth,lle trig drwg dylwyth yntho.

35. Troes yr anialwch yn llyn glâs,a’r tir cras yn ffynhonnydd.

36. Lle y gwnâi ef drigfan i’r gwael ddyn,i dorri ei newyn beunydd.

Salm 107