3. A gasglodd o bedwar-ban byd,dowch chwi i gyd-ganeuau.O dir y dwyrain dowch mewn hedd,gorllewin, gogledd, deau.
4. Drwy yr anialwch, wyrdraws hynt,y buasent gynt yn crwydroAllan o’r ffordd: heb dref na llan,lle caent hwy fan i drigo.
5. Drwy newyn, syched bu’r daith hon,a’i calon ar lewygu:
6. Ar Dduw y galwent y pryd hyn,pan oeddyn ymron trengu.Yna eu gwared hwynt a wnaeth,o’i holl orthrym-gaeth foddion.
7. Rhyd yr iawn ffordd fe’i dug mewn hedd,i dref gyfannedd dirion.