Salm 107:23-29 Salmau Cân 1621 (SC)

23. Y rhai ânt mewn llongau i’r don,a’i taith uwch mawrion ddyfroedd,

24. A welsant ryfeddodau’r Ion,a hyn mewn eigion moroedd.

25. A’i air cyffroe dymestloedd gwynt,y rhai’n a godynt donnau

26. Hyd awyr fry, hyd eigion llawr,ac ofn bob awr rhag angau.

27. Gan ysgwyd a phendroi, fal hyn,dull meddwyn, synnai arnynt.

28. Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,daeth ef a chymorth iddynt.

29. Gwnaeth e’r ystorm yn dawel deg,a’r tonnau’n osteg gwastad.

Salm 107