Salm 105:8-15 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Bob amser cofiodd ei gyn-grair,ei air, a’i rwym ammodau

9. Ag Abraham, Isaac, a’i hil,a mil o genedlaethau.

10. Fe roes i Jaco hyn yn ddeddf,ac yn rwym greddf dragwyddol.

11. Ac i Israel y rhoes lânwlâd Canan yn gartrefol.

12. Pan oedd yn anaml iawn eu plaid,a hwy’n ddieithriaid ynddi:

13. Ac yn rhodio o’r wlâd i’r llall,yn dioddef gwall a chyni:

14. Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:o’r achos hyn brenhinoeddA geryddodd ef yn eu plaid:a’i air a gaid yn gyhoedd.

15. A’m eneiniog na chyffyrddwch:na ddrygwch fy mrhophwydi.

Salm 105