Salm 105:20-29 Salmau Cân 1621 (SC)

20. Yna y gyrrwyd iw gyrchu fogar bron hen Pharo frenin:Ac y gollyngwyd ef ar lled,o’i gam gaethiwed ryflin.

21. O hyn ei osod ef a wnaethyn bennaeth ar ei deuly,Ac o’i holl gyfoeth ef a’i wlâd,ys da fawr-hâd oedd hynny,

22. I ddyscu’i reolwyr ei lys,ei ’wllys a’i foddlondeb:I fforddio henuriaid y wlâd,yn wastad mewb doethineb.

23. Daeth Israel i’r Aipht tir Cham,lle’r oedd yn ddinam estron:

24. Lle llwyddodd Duw hil Jaco bachyn amlach nâ’i caseion.

25. Yna y troes ei calon gau,i lwyr gasau ei bobloedd:Iw weision ef i wneuthur twyll,a llid (nid amwyll) ydoedd.

26. Duw gyrrodd Foesen i was hen,ac Aron llen dewisol.

27. Yn nhir Ham i arwyddoccauei nerth a’i wrthiau nodol.

28. Rhoes Duw dywyllwch dros y wlâd,er hyn ni châd ufydd-dod.

29. Eu dyfroedd oll a droed yn waed,a lladd a waned eu pysgod.

Salm 105