14. Roedd tref fechan lle nad oedd llawer o bobl yn byw. Daeth brenin cryf i ymosod arni, ei hamgylchynu ac adeiladu rampiau mawr i warchae yn ei herbyn.
15. Ond roedd dyn tlawd oedd yn ddoeth iawn yn byw yn y dref. Dyma fe'n llwyddo i achub y dref drwy ei ddoethineb. Ac eto doedd neb yn ei gofio!
16. Dw i wedi dweud:“Mae doethineb yn well na grym.”Mae hynny'n wir hyd yn oed os ydy doethineb y dyn tlawd yn cael ei ddirmygu a'i eiriau'n cael eu diystyru.
17. Mae'n well gwrando ar eiriau pwyllog y doethnac ar lywodraethwr yn gweiddi yng nghanol ffyliaid.
18. Mae doethineb yn well nag arfau rhyfelond mae un weithred ffôl yn gallu dinistrio llawer o dda.