8. A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan mae'n marw; does neb yn gallu gohirio'r foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, a'r un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg.
9. Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy'n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.
10. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael angladd parchus. Roedden nhw'n arfer mynd a dod o'r lle sanctaidd, tra roedd y rhai yn y ddinas oedd wedi byw yn iawn yn cael eu hanghofio. Beth ydy'r pwynt?
11. Os ydy drygioni ddim yn cael ei gosbi ar unwaith, mae pobl yn cael eu hannog i wneud drwg.
12. Mae pechadur yn cyflawni'r un drwg ganwaith, ac yn dal i gael byw'n hir. Ond dw i'n gwybod yn iawn y bydd hi'n well ar y rhai sy'n parchu Duw yn y pen draw, am eu bod nhw'n dangos parch ato.
13. Fydd hi ddim yn dda ar y rhai sy'n gwneud pethau drwg, oherwydd, fel cysgod, fyddan nhw ddim yn aros yn hir, am nad ydyn nhw'n parchu Duw.
14. Ond wedyn, dyma beth sy'n gwneud dim sens yn y byd yma: Mae rhai pobl sydd wedi byw yn ufudd i Dduw yn cael eu trin fel petaen nhw wedi gwneud drwg; ac mae rhai pobl ddrwg sy'n cael eu trin fel petaen nhw wedi byw yn iawn! Fel dw i'n dweud, dydy'r peth yn gwneud dim sens!