Y Pregethwr 7:3-21 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mae tristwch yn well na chwerthin –er bod tristwch ar yr wyneb, gall wneud lles i'r galon.

4. Mae'r doeth yn meddwl am ystyr marwolaeth,ond ffyliaid yn meddwl am ddim ond miri.

5. Mae'n well gwrando ar y doeth yn rhoi ceryddnac ar ffyliaid yn canu eich clodydd.

6. Oherwydd mae sŵn ffŵl yn chwerthinfel brigau yn clecian wrth losgi dan grochan.Mae'n ddiystyr!

7. Mae gormesu'n gwneud i'r doeth edrych fel ffŵl,ac mae breib yn llygru barn pobl.

8. “Mae gorffen rhywbeth yn well na'i ddechrau,”ac “Mae amynedd yn well na balchder.”

9. Paid gwylltio'n rhy sydyn;gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid.

10. Paid gofyn, “Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?”Dydy'r rhai doeth ddim yn meddwl felly.

11. Mae doethineb, fel etifeddiaeth, yn beth daac yn fanteisiol i bob person byw,

12. oherwydd mae doethineb, fel arian,yn gysgod i'n cadw'n saff.Ond mantais doethineb ydy hyn:mae doethineb yn cadw'r doeth yn fyw.

13. Ystyriwch bopeth mae Duw wedi ei wneud! Pwy sy'n gallu sythu beth mae e wedi ei blygu?

14. Felly mwynhewch fywyd pan mae pethau'n mynd yn dda; ond pan mae popeth yn mynd o'i le, cofiwch hyn: Duw sydd tu ôl i'r naill a'r llall, felly all neb wybod yn iawn beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

15. Yn ystod fy mywyd llawn penbleth, dw i wedi gweld y cwbl: Rhywun sy'n ffyddlon i Dduw yn marw'n ifanc er ei holl ddaioni, a rhywun drwg yn cael byw'n hir er gwaetha'i holl ddrygioni.

16. Paid bod yn rhy siŵr ohonot ti dy hun, dy fod yn berson cyfiawn a doeth, rhag i ti gael dy siomi!

17. A paid rhoi dy hun yn llwyr i ddrygioni ac ymddwyn fel ffŵl. Pam ddylet ti farw cyn dy amser?

18. Y peth gorau i'w wneud ydy dal gafael yn y naill gyngor a'r llall, oherwydd mae'r person sy'n parchu Duw yn osgoi y ddau eithaf.

19. “Mae doethineb yn rhoi mwy o rym i rywunna deg o lywodraethwyr mewn dinas.”

20. “Does neb drwy'r byd i gyd mor gyfiawnnes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.”

21. Hefyd, “Paid cymryd sylw o bopeth sy'n cael ei ddweud,rhag i ti glywed dy was yn dweud pethau drwg amdanat ti!”

Y Pregethwr 7