22. Oherwydd mae'n dda i ti gofio dy fod ti dy hunwedi dweud pethau drwg am bobl eraill lawer gwaith.
23. Ceisiais ddefnyddio fy noethineb i ddeall y cwbl, ond methu cael atebion.
24. Mae'n anodd deall popeth sy'n digwydd – mae'r pethau yma yn llawer rhy ddwfn i unrhyw un ddarganfod yr atebion i gyd.
25. Dyma fi'n troi fy sylw i astudio ac ymchwilio'n fanwl i geisio deall beth ydy doethineb, a pa mor dwp ydy drygioni, ac mor wallgof ydy ffolineb.
26. Dw i wedi darganfod mai peth chwerw iawn ydy'r wraig sydd fel magl heliwr, yn rhwydo dyn, a'i breichiau amdano fel cadwyni. Mae'r dyn sy'n plesio Duw yn llwyddo i ddianc o'i gafael, ond mae'r un sy'n pechu yn cael ei ddal ganddi.
27. Dyma'r casgliad dw i wedi dod iddo, meddai'r Athro – wrth geisio deall y cwbl o dipyn i beth:
28. (Dw i wedi bod yn ymchwilio iddo'n gyson, ond heb eto gael ateb digonol, fel maen nhw'n dweud, “Cefais ddim ond un dyn mewn mil, ond dw i ddim wedi darganfod gwraig yn eu plith nhw o gwbl.”)
29. Yr un casgliad dw i wedi dod iddo ydy hwn: Gwnaeth Duw y ddynoliaeth yn gyfiawn, ond maen nhw i gyd wedi dilyn pob math o syniadau.