Y Pregethwr 7:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Mae enw da yn well na phersawr drud,”a'r diwrnod dych chi'n marw yn well na dydd eich geni.

2. Mae'n well mynd i gartref lle mae pawb yn galarunag i dŷ lle mae pawb yn cael parti.Marw fydd y diwedd i bawb,a dylai pobl ystyried hynny.

3. Mae tristwch yn well na chwerthin –er bod tristwch ar yr wyneb, gall wneud lles i'r galon.

4. Mae'r doeth yn meddwl am ystyr marwolaeth,ond ffyliaid yn meddwl am ddim ond miri.

5. Mae'n well gwrando ar y doeth yn rhoi ceryddnac ar ffyliaid yn canu eich clodydd.

Y Pregethwr 7