1. Dyma fi'n ystyried yr holl orthrwm sy'n digwydd yn y byd. Gwelais ddagrau y rhai sy'n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i'w hachub nhw o afael y gorthrymwyr.
2. Roedd rhaid i mi longyfarch y rhai oedd eisoes wedi marw, am eu bod yn well eu byd na'r rhai sy'n dal yn fyw.
3. Ond mae'n well fyth ar y rhai hynny sydd ddim wedi cael eu geni, a ddim yn gorfod edrych ar yr holl ddrygioni sy'n digwydd yn y byd!
4. Yna dyma fi'n ystyried holl waith caled a thalentau pobl. Dydy hynny i gyd yn ddim byd ond cystadleuaeth rhwng pobl a'i gilydd! Does dim sens yn y peth! Mae fel ceisio rheoli'r gwynt!
5. “Mae'r ffŵl yn plethu ei freichiauac yn gwastraffu ei fywyd,”
6. Ac eto,“Mae un llond llaw gyda gorffwysyn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.”Ydy, mae fel ceisio rheoli'r gwynt!
7. Yna dyma fi'n ystyried rhywbeth arall sy'n gwneud dim sens o gwbl:
8. Rhywun sydd ar ei ben ei hun yn llwyr – heb gymar na phlant na pherthnasau – ac eto'n gweithio'n ddi-stop, a byth yn fodlon gyda beth sydd ganddo. “Pam dw i'n gwneud hyn, ac amddifadu fy hun o fwynhad?” meddai. Dydy peth felly yn gwneud dim sens! Mae'n drist iawn.
9. “Mae dau gyda'i gilydd yn well nag un.” Wrth weithio gyda'i gilydd mae'r ddau berson ar eu hennill.