Y Pregethwr 2:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Meddyliais, “Reit, dw i'n mynd i weld beth sydd gan bleser i'w gynnig!” Ond wedyn dod i'r casgliad mai nid dyna'r ateb chwaith.

2. “Mae byw dim ond i gael hwyl a sbri yn hurt!” meddwn i. Ac am fyw i bleser, dwedais, “Beth ydy'r pwynt?”

3. Dyma fi'n ceisio gweld fyddai codi'r galon gyda gwin, nes dechrau actio'r ffŵl, yn ateb. Ceisio bod yn ddoeth oeddwn i. Roeddwn i eisiau gweld a oedd hynny'n beth da i bobl ei wneud yn yr amser byr sydd ganddyn nhw ar y ddaear.

4. Wedyn dyma fi'n casglu mwy a mwy o eiddo. Dyma fi'n adeiladu tai i mi fy hun, ac yn plannu gwinllannoedd.

5. Dyma fi'n cynllunio gerddi a pharciau brenhinol i mi fy hun, ac yn plannu pob math o goed ffrwythau ynddyn nhw.

6. Yna adeiladu pyllau dŵr – digon i ddyfrio'r holl goed oedd gen i yn tyfu.

Y Pregethwr 2