Y Pregethwr 12:9-14 beibl.net 2015 (BNET)

9. Roedd yr Athro yn ddyn doeth, a dysgodd ddoethineb i'r bobl. Bu'n pwyso a mesur gwirionedd llawer o ddywediadau, ac yn eu gosod mewn trefn.

10. Roedd yr Athro yn ceisio dod o hyd i ddywediadau oedd wrth ei fodd, ac wrth ysgrifennu roedd yn dweud y gwir plaen.

11. Mae dywediadau'r doeth yn procio'r meddwl; maen nhw'n brathu weithiau, fel hoelion mewn ffon i yrru anifeiliaid. Yr un Bugail sydd wedi rhoi'r casgliad i gyd i ni.

12. Un rhybudd olaf, fy mab. Gellid ysgrifennu llyfrau diddiwedd am y pethau yma, ac mae astudio yn waith caled sydd byth yn dod i ben.

13. I grynhoi, y cwbl sydd i'w ddweud yn y diwedd ydy hyn: Addola Dduw a gwna beth mae e'n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud.

14. Oherwydd bydd Duw yn galw pawb i gyfrif am bopeth wnaethon nhw – hyd yn oed beth oedd o'r golwg – y da a'r drwg.

Y Pregethwr 12