1. Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc,cyn i'r dyddiau anodd gyrraedda'r blynyddoedd ddod pan fyddi'n dweud,“Dw i'n cael dim pleser ynddyn nhw.”
2. Cyn i'r haul a golau'r lleuad a'r sêr droi'n dywyll,a'r cymylau'n dod yn ôl eto ar ôl y glaw:
3. Pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu,a dynion cryfion yn crymu;y rhai sy'n malu'r grawn yn y felin yn mynd yn brin,a'r rhai sy'n edrych drwy'r ffenestri yn colli eu golwg.
4. Pan mae'r drysau i'r stryd wedi cau,a sŵn y felin yn malu wedi tawelu;pan mae rhywun yn cael ei ddeffro'n gynnar gan gân aderyner fod holl seiniau byd natur yn distewi.
5. Pan mae gan rywun ofn uchderac ofn mynd allan ar y stryd.Pan mae blodau'r pren almon yn troi'n wyn,y ceiliog rhedyn yn llusgo symud,a chwant rhywiol wedi hen fynd.Pan mae pobl yn mynd i'w cartref tragwyddol,a'r galarwyr yn dod allan ar y stryd.
6. Cyn i'r llinyn arian dorriac i'r fowlen aur falu,a'r llestr wrth y ffynnon yn deilchion,a'r olwyn i'w godi wedi torri wrth y pydew.
7. Pan mae'r corff yn mynd yn ôl i'r pridd fel yr oedd,ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw,yr un a'i rhoddodd.
8. Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – dydy'r cwbl yn gwneud dim sens!
9. Roedd yr Athro yn ddyn doeth, a dysgodd ddoethineb i'r bobl. Bu'n pwyso a mesur gwirionedd llawer o ddywediadau, ac yn eu gosod mewn trefn.