Y Pregethwr 10:4-18 beibl.net 2015 (BNET)

4. Pan mae'r llywodraethwr wedi gwylltio gyda ti, paid symud;wrth i ti beidio cynhyrfu bydd ei dymer e'n tawelu.

5. Dyma beth ofnadwy arall dw i wedi ei weld –camgymeriad mae llywodraethwr yn gallu ei wneud:

6. Ffyliaid yn cael eu gosod mewn safle o awdurdod,a pobl fonheddig yn cael eu hunain ar y gwaelod.

7. Dw i wedi gweld caethweision ar gefn ceffylaua thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision.

8. Gall rhywun sy'n cloddio twll syrthio i mewn iddo,a'r un sy'n torri trwy wal gerrig gael ei frathu gan neidr.

9. Gall gweithiwr mewn chwarel gael ei anafu gan y meini,a'r un sy'n hollti coed gael niwed gan y coed.

10. Os nad oes min ar y fwyell,os na chafodd ei hogi,rhaid defnyddio mwy o egni.Mae doethineb bob amser yn helpu!

11. Os ydy neidr yn brathu cyn cael ei swyno,mae'r swynwr wedi methu!

12. Mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr,ond mae'r ffŵl yn dinistrio'i hun gyda'i eiriau.

13. Mae'n dechrau trwy siarad dwli,ac yn darfod trwy ddweud pethau hollol wallgof.

14. Mae'r ffŵl yn siarad gormod!Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd,hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?

15. Mae gwaith yn blino'r ffŵl yn lân,dydy e byth yn gwybod ble mae e'n mynd.

16. Gwae'r wlad sydd â brenin plentynnaidd,a'i thywysogion yn dechrau gwledda'n gynnar yn y bore!

17. Ond mae'n braf ar bobl sydd â'u brenin yn gallu rheoli,a'u tywysogion yn gwybod pryd mae'n iawn i wledda– dan reolaeth, ac nid i feddwi!

18. Mae to sy'n syrthio yn ganlyniad diogi;mae'n gollwng dŵr am fod dim wedi ei wneud.

Y Pregethwr 10