10. Os nad oes min ar y fwyell,os na chafodd ei hogi,rhaid defnyddio mwy o egni.Mae doethineb bob amser yn helpu!
11. Os ydy neidr yn brathu cyn cael ei swyno,mae'r swynwr wedi methu!
12. Mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr,ond mae'r ffŵl yn dinistrio'i hun gyda'i eiriau.
13. Mae'n dechrau trwy siarad dwli,ac yn darfod trwy ddweud pethau hollol wallgof.
14. Mae'r ffŵl yn siarad gormod!Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd,hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud?
15. Mae gwaith yn blino'r ffŵl yn lân,dydy e byth yn gwybod ble mae e'n mynd.
16. Gwae'r wlad sydd â brenin plentynnaidd,a'i thywysogion yn dechrau gwledda'n gynnar yn y bore!
17. Ond mae'n braf ar bobl sydd â'u brenin yn gallu rheoli,a'u tywysogion yn gwybod pryd mae'n iawn i wledda– dan reolaeth, ac nid i feddwi!
18. Mae to sy'n syrthio yn ganlyniad diogi;mae'n gollwng dŵr am fod dim wedi ei wneud.
19. Mae bwyd yn cael ei baratoi i'w fwynhau,ac mae gwin yn gwneud bywyd yn llon,ond wrth gwrs arian ydy'r ateb i bopeth!
20. Paid hyd yn oed meddwl beirniadu'r brenin,na melltithio pobl gyfoethog yn dy ystafell wely.Gallai aderyn bach ddweud wrth eraill,neu ailadrodd beth ddwedaist ti.