Y Pregethwr 10:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae pryfed marw'n gwneud i bersawr ddrewi,ac mae ychydig ffolineb yn gallu troi'r fantol yn erbyn doethineb mawr.

2. Mae gogwydd y doeth at y da,ond mae'r ffŵl yn dewis y drwg.

3. Mae'r ffordd mae'r ffŵl yn ymddwynyn dangos i bawb ei fod yn dwpsyn!

4. Pan mae'r llywodraethwr wedi gwylltio gyda ti, paid symud;wrth i ti beidio cynhyrfu bydd ei dymer e'n tawelu.

5. Dyma beth ofnadwy arall dw i wedi ei weld –camgymeriad mae llywodraethwr yn gallu ei wneud:

6. Ffyliaid yn cael eu gosod mewn safle o awdurdod,a pobl fonheddig yn cael eu hunain ar y gwaelod.

7. Dw i wedi gweld caethweision ar gefn ceffylaua thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision.

Y Pregethwr 10